

Ymunwch â menter newydd y Bartneriaeth Awyr Agored sy’n ceisio rhoi mwy o gyfle i bobl anabl o bob oedran o ardaloedd Ynys Môn, Conwy a Gwynedd i gyflawni eu potensial trwy gyfrwng gweithgareddau awyr agored.
Rydym yn herio pobl anabl, eu teuluoedd a’u ffrindiau i roi cynnig ar weithgaredd yn yr awyr agored. Bydd y gweithgareddau yma yn cynnwys hwylio, hwylfyrddio, canŵio, caiacio, padlo ar eu traed (SUP), dringo, cerdded, seiclo, rhwyfo a syrffio.
Mae sesiynau datblygu wedi'u trefnu ar gyfer unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau mewn gweithgaredd anturus penodol. Efallai bydd rhai yn ennill gwobrau hyfedredd o ganlyniad i’w sgiliau newydd.
Mae nifer o glybiau gweithgareddau awyr agored o fewn y tair sir yn darparu sesiynau cynhwysol. I weld pa glybiau sy’n cynnig y sesiynau cynhwysol yma, edrychwch am y logo insport.
Rydym yn cefnogi gwirfoddolwyr o fewn nifer o glybiau gweithgareddau lleol drwy gynnig cyrsiau ymwybyddiaeth anableddau yn ogystal â hyfforddiant offer addasol iddynt.
I sicrhau bod y gweithgareddau yn hygyrch i bawb rydym yn creu hybiau offer o fewn y tair sir er mwyn storio offer addasol at ddefnydd unigolion cymwys o’r clybiau cymunedol lleol, gan gynnwys grwpiau cymunedol, ysgolion, darparwyr a sefydliadau lleol.
Rydym yn datblygu a chefnogi clybiau a grwpiau newydd lle bydd gwirfoddolwyr newydd yn cael eu recriwtio a’u hyfforddi, drwy ein rhaglen gwirfoddoli. Mi allent dderbyn cyrsiau mentora / cymwysterau’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol am bris gostyngol.
Bwriad y fenter ydi codi’r nifer o bobl anabl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored o fewn y tair sir erbyn 2018. Yn 2014, nododd Chwaraeon Anabledd Cymru bod 24% o boblogaeth Cymru yn anabl, a dim ond 3.4% o’r rhain sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yng ngogledd Cymru.
Darllenwch am flwyddyn gyntaf y rhaglen Antur i Bawb yma
Siarad â ni